Mae masnachu yn rhedeg trwy’r teulu ni – rydan ni wedi bod yn rhan o Farchnad Caerfyrddin ers chwe chenhedlaeth! Nôl yn yr 1850au, dechreuodd Margaret Morris werthu menyn yn y farchnad, a chyn bo hir roedd hi hefyd yn gwerthu bacwn wedi’i halltu. Roedd hyn yn gyfnod pan oedd y menywod yn y farchnad ac roedd y dynion adref ar y fferm. Dros y blynyddoedd, aeth y traddodiad o un genhedlaeth i’r llall – teulu cyfan o fasnachwyr, ar draws marchnadoedd ledled Cymru.

Yn 1962, cymerodd fy nhaid, Albert Rees, yr awenau gyda’i wraig Brenda. Fe wnaethon nhw ehangu’r busnes a dechrau masnachu mewn chwe marchnad ar draws De Cymru. Pan ymddeolodd yn 1989, fe rannodd fy nhad Chris a’i frawd Jonathon y busnes rhyngddyn nhw – gyda Chris yn rhedeg siopau yng Nghaerfyrddin, Doc Penfro ac Aberteifi, a Jonathon yn Abergwaun, Aberhonddu a Hwlffordd. Mae’r busnesau nawr yn cael eu rhedeg yn gwbl ar wahân.

Dechreuodd y hanes gyda Ham Caerfyrddin yn y 1970au, pan ofynnodd cwsmer am ham Cymreig oedd wedi’i sychu’n hirach – un oedd yn gallu cael ei fwyta’n amrwd, fel prosciutto. Felly fe wnaeth Albert roi cynnig arni – a lwyddo.

Pan gymrodd Chris ac Ann drosodd, wnaethon nhw godi’r safon eto – gan ennill dau aur yn y Great Taste Awards yn 2003, a sicrhau statws PGI Ewropeaidd yn 2016. Dros y blynyddoedd, mae Ham Caerfyrddin wedi cael ei arddangos ar lawer o raglenni teledu – gan gynnwys Rick Stein, Ainsley Harriott, The One Show, ac fe gafodd sylw ar rownd derfynol y Great British Menu yn 2013.

Mae chwedl deuluol (nad ydyn ni’n mynd i ddadlau’n ormodol amdani!) yn dweud mai’r Rhufeiniaid ddysgodd sut i wneud ham oddi wrthym ni pan gyrhaeddon nhw Gymru… a dyma ddechrau Ham Parma!

Yn 2023, dychwelais i – Matthew – i ymuno efo’r busnes teuluol. Dw i’n awyddus i gadw’r traddodiad yn fyw, tra’n edrych ymlaen ac yn trio gwneud y mwyaf o bopeth mae Ham Caerfyrddin a’n deli ni’n ei gynnig i’r byd modern.